Beth yw Connected?

Connected yw enw Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Adoption UK. Mae’n grŵp misol lle gall pobl ifanc wedi’u mabwysiadu gyfarfod mewn man diogel a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog. Mae’n lle diogel i gwrdd â phobl ifanc eraill sydd wedi’u mabwysiadu a chael eich cefnogi
gan staff sy’n weithwyr ieuenctid profiadol.
Pa weithgareddau ydych chi’n eu gwneud yn Connected?
Rydym ni wedi gwneud amrywiaeth o weithgareddau, o goginio a gwneud bomiau bath i sgiliau drymio a syrcas. Rydym ni’n cynnal ein gweithgareddau yn seiliedig ar yr hyn mae’r
bobl ifanc yn ei ddewis a dyna pam rydym ni’n gofyn i chi lenwi ‘Eich Barn’. Rydym ni bob amser yn awyddus i glywed am eich diddordebau a’r hyn yr hoffech chi ei weld yn y sesiynau Connected.


Pa ystod oedran fydd mewn sesiwn Connected?
Mae gennym ni ddau grŵp o wahanol
ystod oedran; mae un o 7-11 mlwydd oed
ac mae’r ail yn 11+. Mae gennym ni ddau grŵp 18+ hefyd Os ydych chi’n dros 18 mlwydd oed, ebostiwch wales@adoptionuk.org.uk i gadarnhau’ch diddordeb!

Faint o bobl ifanc fydd yno?
Ni fydd mwy na
15 yn y grwpiau 7-10 a dim
mwy na 10 o bobl ifanc
yn y grwpiau 11+.

Connected yn eich ardal chi
Dewiswch o un o’r ardaloedd canlynol
Gogledd Cymru
Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam
De Cymru
Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg
Canolbarth a Gorllewin Cymru a Bae’r Gorllewin
Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe





